Brawddeg
Gwedd
Uned ieithyddol mewn iaith naturiol yw brawddeg, mynegiad sy'n cyfleu gosodiad, gofyniad neu orchymyn.[1]
Yn y rhan fwyaf o ieithoedd,[2] mae'n rhaid i frawddeg gynnwys berf derfynol, ond nid yw hyn yn wir yn y Gymraeg. E.e. "Hir pob aros."
Rhannau'r frawddeg
Mewn cymal, ceir goddrych a thraethiad; gall fod yn brif gymal neu'n isgymal. Mae'n brawddegau syml yn cynnwys dim ond un cymal (a hwnnw'n brif gymal), ond mewn brawddegau eraill ceir sawl cymal. Mae'r frawddeg gyfansawdd yn cynnwys o leiaf dau brif gymal cydradd, tra mae'r frawddeg gymhleth yn cyfuno prif gymal ag isgymal(au).