Afon Zambezi
Math | y brif ffrwd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Angola, Mosambic, Namibia, Sambia, Simbabwe |
Cyfesurynnau | 11.3702�S 24.3083�E, 18.5706�S 36.4703�E |
Aber | Cefnfor India |
Llednentydd | Afon Kafue, Afon Luangwa, Afon Shire, Afon Cuando, Afon Manyame, Afon Luena, Afon Kabompo, Afon Luanginga, Afon Lungwebungu, Afon Gairezi, Chongwe, Sapi river, Afon Gwayi, Afon Sakeji, Rev�bo� River, Luia river |
Dalgylch | 1,570,000 cilometr sgw�r |
Hyd | 2,574 cilometr |
Arllwysiad | 7,000 �0.001 metr ciwbic yr eiliad |
Llynnoedd | Cahora Bassa Reservoir, Kariba Dam |
Afon fawr yn Ne Affrica yw Afon Zambezi. Hi yw'r pedwerydd afon mwyaf ar gyfandir Affrica (tua 1,347,000 km�; 520,000 milltir sgw�r). Ei hyd yw 2740 km (1700 milltir) - mwy na'r pellter rhwng Caerdydd ac Athen.
Mae'n tarddu yng ngogledd-orllewin Sambia, ac yn llifo i'r de trwy ddwyrain Angola cyn llifo'n �l i Sambia a rhedeg ar gwrs dwyreiniol ar hyd Llain Caprivi ar y ffin � Namibia. Mae Afon Cunado yn ymuno â hi o Namibia. Wedyn mae'n ffurfio'r ffin rhwng Sambia a Simbabwe lle ceir Rhaeadr Fictoria a Llyn Kariba a'i argae. Yna mae'n llifo i'r de-ddwyrain trwy coedwigoedd a savannah Mosambic, gan fynd trwy lyn artiffisial Argae Cahora Bassa, i aberu yng Nghefnfor India mewn delta anferth a chymhleth. Mae'r dinasoedd ar ei glannau yn cynnwys Lealui a Livingstone yn Sambia, a Zumbo, Tete, Sena a Chinde ym Mosambic.